Friday 31 May 2013

Croeso i’r Blog CGIC!

Gobeithio y byddwch chi’n ymweld â ni’n rheolaidd er mwyn dod i wybod am brofiad ‘Y Nash’ o sawl cyfeiriad – cewch glywed safbwynt yr aelodau,  cyfarwyddwyr artistig ac aelodau cyswllt, rheolwyr, y tîm lles a thîm gweinyddol CCIC.

Sut mae mynd ati i fynd â CCIC ‘ar daith’? Sut mae’n teimlo i fod yn aelod newydd o’r Nash yn aros am eich cwrs preswyl cyntaf? Sut caiff gwaith newydd ei baratoi; sut mae’n cael ei ymarfer a’i greu? Pwy sy’n Trydar ac yn ysgrifennu’r negeseuon Facebook?

Mynediad i Bob Man yw’r neges gan CCIC yr haf hwn – felly gwnewch yn siŵr eich bod yn cadw mewn cysylltiad i gael gwybod amrywiol hanesion, i hel straeon ac i gael gwybod beth sy’n digwydd gefn llwyfan. Byddwch chi wedyn yn y gyfrinach pan welwch ein cyngherddau a pherfformiadau.

Ymunwch â’r Blog a’r sgwrs felly!
 

No comments:

Post a Comment