Saturday 27 June 2015

Uchafbwyntiau'r 'Nash' / 'Nash' Highlights - Carolyn Burton

 Am y 3 mlynedd diwethaf, mae'r Nash wedi bod yn rhan wych o fy haf a rŵan dydw i ddim yn gallu dychmygu haf hebddo. Mae'n 2 wythnos ddwys o chwarae cerddoriaeth a hwyl ffantastig! Mae cael y siawns i weithio gydag arweinyddion byd-enwog a thiwtoriaid profiadol wedi fy natblygu i lawer fel cerddor, ac mae'n wych cael y cyfle i ehangu fy repertoire cerddorfaol bob blwyddyn. Heb anghofio am yr ochr gymdeithasol - mae'r tîm staff tŷ lyfli bob amser yn rhoi adloniant gwych i ni bob nos, sy'n cadw ni'n brysur trwy'r dydd i gyd! Fy hoff ddigwyddiad yn bendant ydy'r noson Gwisg Ffansi lle mae'n amlwg ein bod ni fel cerddorion yn bobl greadigol IAWN!! Does dim rhaid dod a gwisg ffansi lawr i Lanbedr, dim ond chwilota o amgylch siopau elusennol y dre a chasglu cardfwrdd, dillad a phethau ar gyfer eich gwisg. Dwi wastad wedi bod yn rhan o wisg 'grŵp gwisg ffansi' ac yn meddwl bod gwneud rhywbeth gyda fy ffrindiau yn ychwanegu hyd yn oed mwy at yr hwyl! (Carolyn Burton - Ffidl)



For the last 3 years, Nash has been a great part of my summer and now I just can't imagine a summer without it. It's an intensive 2 weeks of mad music-making and fantastic fun! Being able to work with world-renowned conductors and experienced tutors has really helped me develop as a musician, and it's always great to expand my orchestral repertoire each year. Can't forget the social side though - the lovely team of house staff always provide great entertainment for us each evening which keeps us busy non-stop for the whole day! My favourite event, though, has definitely got to be the Fancy Dress night where it's evident that we musicians are VERY creative people!! No need to bring a costume with you, just scavenge around the Lampeter charity shops, collecting cardboard, clothes and oddments for your costume. I've always been part of a 'group fancy dress' costume and I think that making something with my friends adds even more to the fun! (Carolyn Burton - Violin)

No comments:

Post a Comment