Friday 24 July 2015

Catrin reflects on her 1st few days on 'The Nash'. / Uchafbwyntiau'r diwrnodau cyntaf Catrin ar y 'Nash'.

Fy enw i yw Catrin Williams a’r flwyddyn hon rwyf wedi cael fy newis i fod yn aelod o Gerddorfa Cenedlaethol Ieuenctid Cymru 2015. Fel myfyriwr cerdd ym mhrifysgol Birmingham, mae cael fy newis i fod yn aelod o gerddorfa ieuenctid cyntaf y byd yn fraint anhygoel. Rwyf wedi mwynhau dyddiau cyntaf y cwrs yn fawr iawn ac wedi cael cymryd rhan mewn ambell o weithgareddau cymdeithasol. Mae pawb yma’n gyfeillgar ac yn barod i ymdrechu’n galed er mwyn cynhyrchu cyngerdd o safon uchel. Mae o hefyd wedi bod yn hwyl cael chwarae amryw o ddarnau newydd. Ar ol cael ychydig o dyddiau gyda Adrian Dunn (tiwtor 1st violins) yn arwain, rydym newydd gael ein ymarfer cyntaf gyda Paul Daniel. Rwy’n edrych ymlaen i weddill y cwrs ac ar gyfer y cyngerddau sy’n cael ei cynnal ar draws Cymru. Mae yna hefyd  amryw o weithgareddau hwyl eraill, fel paratoi ar gyfer noson ‘ffansi dress’, syn draddodiad blynyddol yn ol son. Mae’r cwrs wedi bod yn brofiad anhygoel hyd yn hyn ac mae’n anrhydedd mawr cael bod yn rhan anhono.


My name is Catrin Williams and this year I have been chosen to be a member of the National Youth Orchestra of Wales 2015. As a music student at the University of Birmingham, being chosen to be a member of the first youth orchestra in the world is a massive honour. I’ve immensely enjoyed the first few days of the course and have enjoyed taking part in various social activities. It’s also definitely been great fun playing a variety of repertoire. After a few days with Adrian Dunn (1st violin tutor) conducting the orchestra, Paul Daniel has arrived today and we’ve just had our first full rehearsal with him. I’m looking forward to the rest of the course and performing in the concerts across Wales. I’m also looking forward to the rest of the social activities, especially the fancy dress night, which I’ve heard is a ‘Nash tradition’. The course has been great so far and I feel very privileged to be a member.

Catrin Williams (Ffidl / Violin)

No comments:

Post a Comment