Monday 3 August 2015

Blog diweddaraf Elain / Elain's latest Blog

Wrth i'r ymarferion olaf cyn y daith brysur nesáu, mae'r nerfau'n dechrau cynyddu ond mae pawb mor gyffrous! Heddiw fydd trydydd diwrnod y gerddorfa gyda'r arweinydd, Paul Daniel ac mae'r rhaglen wedi dod yn fyw. Mae rhoi sylw i fanylion bach bendant yn gwneud gwahaniaeth pan mae'r cyfan yn dod at ei gilydd.

Fe wnes i wirioneddol fwynhau cinio'r tiwtoriaid nos Wener. Roedd cael cyfle i wisgo'n ffurfiol a dathlu diwedd gwaith gwych y tiwtoriaid yn fendigedig!
Gyda'r darnau fwy neu lai yn barod, mae'n debyg mai fy ffefryn ydi La Peri gan Dukas oherwydd mae nifer o alawon cofiadwy o fewn y darn ac rwyf wedi cael fy nal yn eu canu fwy nag unwaith! Mae'r Rite of Spring yn swnio'n hollol wefreiddiol a bydd yn ffordd wych o orffen y cyngherddau!

Roedd ymarferion cyntaf yr ensemblau cyfansoddwyr ifanc neithiwr, ac mae'r gwaith mae'r cyfansoddwyr ifanc wedi eu gwneud dros yr wythnos ddiwethaf yn anhygoel! Mae'r darnau wedi'u manylu'n ofalus iawn ac wedi eu trefnu'n addas iawn ar gyfer y cymysgedd o offerynnau. Gwych! 

Rwy'n edrych ymlaen ar gyfer y cyngerdd cyntaf yn Llanbed nos fory gan obeithio y daw cynulleidfa dda i gefnogi'r gerddorfa a'r gwaith caled sydd wedi mynd i fewn i berffeithio'r rhaglen. Cofiwch am y cyngerdd yng Ngogledd Cymru - Bangor nos Fawrth!

No comments:

Post a Comment