Wednesday 12 August 2015

Carolyn Burton yn sgyrsio am ei phrofiad gyda'r 'Nash 2015'


Gwrando ar y radio i 'Berlioz Symphonie Fantastique' yn y Proms wrth i mi ysgrifennu'r blog hon yn ddod ag atgofion gwych yn ôl o gwrs Nash llynedd. Ychydig ddyddiau yn ôl fe es i gyngerdd i glywed 'Dawnsiau Symffonig Rachmaninov' - yn dod ag atgofion yn ôl o'n taith 2013 ym Merlin. Mae Nash 2015 hefyd wedi bod yn anhygoel a dwi'n sicr y byddaf yn gofio llawer o atgofion arbennig ohono yn y flynyddoedd i ddod. Mae wedi bod yn 2 wythnos gwych o gerddoriaeth a gymdeithasu, a dwi'n meddwl bod CGIC 2015 wedi bod fy hoff gwrs dros ben allan o'r 4 mlynedd yr wyf wedi bod yn aelod! (Rwy'n credu fy mod wedi chwarae fwy o nodiadau cywir nag arfer, hefyd!)

Dechreuom i ffwrdd hefo ychydig ddyddiau o ymarferion 'adrannol' - waith caled ond yn werth chweil iawn. Dwi'n teimlo mor lwcus i gael bod yn rhan o adran ffidil 1af lyfli eleni; bod ochr yn ochr â cherddorion talentog a ffrindiau agos a cael y siawns i ddysgu dan hyfforddiant ysbrydoledig Adrian. Nid oes byth eiliad ddiflas yn ein sectionals! Nath Noson Tiwtoriaid dod i ben ddiwedd y ddyddiau cyntaf o Nash, lle cawsom gyfle i fwyta gyda, a diolch i'n tiwtoriaid am eu holl waith caled. Hefyd digwyddodd y 'traddodiad Nash' o fynd am curry ffidil 1af yn Llanbedr am un noson yn ystod y cwrs!

Ni allai'r tîm gwych o staff tŷ wedi gwneud gwaith gwell gofalu amdon ni dros y cwrs preswyl ac maent yn cadw ni'n brysur bob dydd ar ôl ymarferion gyda gweithgareddau cymdeithasol. Mae'r rhain yn amrywio o helfa drysor a nos cabaret i 'Gemau Olympaidd Nash', lle nad oedd y tîm Oren (fy nhîm) wedi neud yn rhy dda... Fel bob amser, oedd 'noson gwisg ffansi' yn llwyddiant fawr ac yn bendant fy hoff weithgaredd o'r cwrs! Roedd amrywiaeth go iawn o ymdrechion a llwythi o wisgoedd creadigol (rhai yn well na'i gilydd!) - Y thêm ar gyfer y flwyddyn hon yn 'La Peri'. Penderfynnodd fy nghrŵp o ffrindiau fynd fel 'peris' (tylwyth teg) ac mi wnaethom ni creu adenydd allan o cardfwrdd a dod o hyd i ddeunydd Arabaidd o siopau elusennol Llanbed i droi i mewn i headscarves!


Mae cael y cyfle i weithio ochr yn ochr ag arweinyddion byd-enwog yn un o'r pethau gorau am Nash, ac fe wnes i fwynhau chwarae dan faton Paul Daniel eleni. Mae'r rhan 'daith' o'r cwrs hefyd yn aruthrol gan yr ydym yn cael y cyfle i deithio ar draws y wlad ac yn chwarae mewn lleoliadau ysblennydd. Fe wnes i fwynhau chwarae yn yr holl leoliadau, yn enwedig Eglwys Gadeiriol Henffordd (cynulleidfa llawn am y 3 Choirs Festival) ac wrth gwrs yn chwarae yn fy lleoliad cartref Neuadd PJ, Bangor. Cefais 'buzz' o chwarae am 'cynulleidfa gartref' gyda'r Nash yn Bangor, ac mae hynny'n sicr yn noson y byddaf byth yn anghofio. Mae bob amser yn hyfryd i chwarae i fyny yn y gogledd a chael teulu, ffrindiau, athrawon cerdd ayyb yn dod i wylio ni! Eleni, rwyf hefyd wedi mwynhau'r cyfle i chwarae yn y 'Ensemblau Cyfansoddwyr' a cefais llawer o hwyl yn gweithio gyda Mark Bowden a'r cyfansoddwyr ifanc. Perfformiodd eu darnau mewn 3 lleoliad ar draws y daith gan gynnwys Llanelli, lleoliad newydd ar gyfer y Nash eleni!

Rydw i wedi sgwennu gormod erbyn hyn, felly ddylwn i stopio... ond beth bynnag mae Nash 2015 wedi bod yn brofiad anhygoel arall ac ni allwn gofyn am ffordd well o dreulio 2 wythnos o fy haf. Ni all geiriau ddisgrifio'r 'buzz' a gewch gan Nash, ond dw i wedi gwneud fy ngorau a gobeithio fydd y lluniau yn helpu ychydig! Rwy'n drist bod rhai o fy ffrindiau agosaf yn gadael eleni (yn enwedig Olivia a Dàire, gan fod yr ydym ni i gyd o Ynys Môn ac wedi tyfu i fyny yn y cylch cerddoriaeth ieuenctid gyda'n gilydd!). O leiaf mae gen i 2 flynedd ar ôl o wneud cais am Nash ac rwy'n bwriadu gwneud y fwyaf ohonynt! Mae bod yn aelod o CGIC yn un o'r cyfleoedd gorau y gellid cerddor ifanc o Gymru gofyn amdan. Bring on Nash 2016!

No comments:

Post a Comment